Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/02/2021 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AS, Llyr Gruffydd AS a Mike Hedges AS. Cafwyd y
datganiadau o fuddiant a ganlyn gan Bethan Sayed AS a Mick Antoniw AS o dan
Reol Sefydlog 17.24A:
Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu y dylid gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. |
||
(14.00-15.20) |
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad Y Gwir
Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Andrew Goodall,
Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cofnodion: Ar ran y
Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd i Dr Andrew Goodall ddiolch i holl staff y GIG
am eu gwaith yn ystod y pandemig. Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar
hyn o bryd mewn perthynas â’r pandemig COVID-19. |
|
(15.30-16.30) |
Materion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd Y Gwir
Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Des Clifford,
Cyfarwyddwr Cyffredinol - Swyddfa'r Prif Weinidog Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar
hyn o bryd mewn perthynas ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. |
|
Papur(au) i’w nodi |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad. Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth a thrafododd y mater hwn â’r Prif Weinidog yn ystod yr ail eitem
ar yr agenda heddiw. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(16.30-16.50) |
Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: |
|
Sylwadau gan y Cadeirydd i gloi O gofio mai dyma
gyfarfod olaf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn ystod y Pumed
Senedd, yn ôl yr amserlen bresennol, diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor
am eu gwaith. Hefyd, diolchodd i’r Prif Weinidog a’i swyddogion am ymgysylltu â
gwaith y Pwyllgor ac i’r ysgrifenyddiaeth am gefnogi’r Pwyllgor gyda’i waith. |