Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i staff Ysgol Gymraeg Bro Dur am y croeso
gafodd y Pwyllgor ac am y cymorth a roddwyd wrth drefnu'r cyfarfod, a diolchodd
i'r disgyblion am eu hymgysylltiad ac am gynnig cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Bethan Sayed. |
|
Newid hinsawdd a'r datganiad Argyfwng Hinsawdd Y Gwir
Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Christine Wheeler, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Holodd y Pwyllgor
y Prif Weinidog am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid
hinsawdd yn dilyn y datganiad Argyfwng Hinsawdd. |
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol Y Gwir
Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru Cofnodion: Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. Cytunodd y Prif
Weinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr oedi wrth roi pasys bws newydd i
bobl hŷn yng Nghymru |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth o'r sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y
Prif Weinidog yn gofyn am wybodaeth bellach am nifer o faterion, gan gynnwys
argaeledd gwefrwyr cyflym ar gyfer cerbydau trydan a sut mae proses gosod
cyllideb Llywodraethau Cymru yn chwarae rôl wrth gyflawni datgarboneiddio. |