Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Cath Hunt 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd y Prif Weinidog a'i swyddogion i'r cyfarfod.

 

(10.00-11.30)

2.

Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog - Dull Gweithredu Llywodraeth Cymru o ran Adeiladu Economi Gref

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Gwenllian Roberts - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Ynni Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 O ystyried Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a gyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf, gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad ac ar oblygiadau'r Bil i Gymru.

 

1.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog ynghylch dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran adeiladu economi gref. Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch:

 

·         Pwy fyddai'n cymryd yr awenau i fynd â'r fasnachfraint rheilffyrdd yn ei blaen pe bai'r broses gaffael yn mynd i drafferthion;

·         Cefnogaeth bellach ar gyfer y rhai sydd am greu ffynonellau newyddion newydd;

·         Ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru annog a chefnogi staff medrus y GIG sy’n dod i ddiwedd eu gyrfa i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y GIG yng Nghymru ac i drosglwyddo eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau cyn iddynt ymddeol.

 

(11.30-12.00)

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn flaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.