Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones.

1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

1.4 Croesawodd y Cadeirydd David Rowlands fel Aelod newydd o'r Pwyllgor.

 

(14.00-15.00)

2.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Yr Arglwydd True, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa'r Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd yr Arglwydd True gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i'w nodi 1: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr y DU a Japan - 9 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg at y Cadeirydd ynghylch y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar Gyfansoddiad a Safonau Labelu Maeth - 9 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Yr Arglwydd True - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20-15.35)

6.

Bil Marchnad Fewnol y DU - dull ar gyfer adrodd

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau eu dull gweithredu a chytunwyd arno.

 

(15.35-15.50)

7.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau’r Cytundeb rhwng y DU ac UDA ar Drefniadau Diogelu Technoleg sy'n gysylltiedig â Chyfranogiad yr UD mewn Lansiadau i’r Gofod o'r DU ac fe’i nodwyd ganddynt