Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones.

1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

1.4 Diolchodd y Cadeirydd i Mandy Jones am ei hamser ar y Pwyllgor, gan nad yw hi bellach yn aelod.

 

(14.00-15.30)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Sophie Brighouse – Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff – Llywodraeth Cymru

Emily Hole – Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.30-15.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 - 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Cytundeb Amlinellol Fframwaith drafft ar gyfer Cynllunio o ran Sylweddau Peryglus - 26 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch negodiadau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop - 27 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Cysylltiadau Rhynglywodraethol - 27 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

3.5

Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach at y Cadeirydd ynghylch Grwpiau Cynghori ar Fasnach - 27 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1 Nodwyd y papur.

 

3.6

Papur i'w nodi 6: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Grwpiau Cynghori ar Fasnach - 29 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.1 Nodwyd y papur.

 

3.7

Papur i'w nodi 7: Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig - 3 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7.1 Nodwyd y papur.

 

3.8

Papur i'w nodi 8: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach 2020: Cydsyniad Deddfwriaethol - 3 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8.1 Nodwyd y papur.

 

(15.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.35-15.50)

5.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.50-16.00)

6.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd a nododd yr Aelodau'r Atodlenni Diwygiedig i'r Cytundeb ar Gaffael y Llywodraeth o ganlyniad i brotocol 2012 sy’n diwygio'r cytundeb ar gaffael y llywodraeth, gan ddod i rym mewn perthynas â’r Swistir.