Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/01/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell. Dirprwyodd Dai Lloyd ar ei rhan.

1.3     Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones.

1.4     Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.30-14.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Gynullydd Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol Senedd yr Alban at y Cadeirydd ynghylch Bil yr UE (Cytundeb Ymadael) - 16 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

3.2

Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ‘Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru’ - 20 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi at y Cadeirydd ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) - 21 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

3.4

Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 23 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

(14.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.35-14.50)

5.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.50-15.00)

6.

Gwaith craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1        Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r cytundebau a ganlyn:

6.1.1   y DU/Swistir: Transitional Agreement on Social Security for a Temporary Period following the Withdrawal of the UK, ac

6.1.2   Economic Partnership Agreement between the Southern African Customs Union and Mozambique and the UK.