Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/05/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding, ac roedd Suzy Davies yn bresennol fel dirprwy.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson.

1.4 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru

ar yr UE .

1.5 Diolchodd y Cadeirydd i Mark Reckless am ei waith fel Aelod o'r Pwyllgor.

 

(14.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.00 - 14.45)

3.

Sesiwn briffio breifat ar fframweithiau cyffredin

Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru

Paul Harrington, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd y tystion friff technegol i'r Aelodau ar fframweithiau cyffredin y DU.

3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.45 - 15.30)

4.

Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â’r UE – sesiwn dystiolaeth 1

Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Rob Stewart, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.30 - 16.15)

5.

Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â’r UE – sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Colin Riordan, Prifysgolion Cymru

Mairwen Harris, Prifysgolion Cymru

Nesta Lloyd-Jones, Cydffederasiwn GIG Cymru

 

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(16.15 - 16.20)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Papur i'w nodi rhif 1: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach (Memorandwm Rhif 3): Y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papur.

 

6.2

Papur i'w nodi rhif 2: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Iwerddon yn ymwneud â’r ardal Deithio Gyffredin a’r hawliau a’r breintiau cyfatebol perthnasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.1 Nodwyd y papur.

 

(16.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.20 - 16.35)

8.

Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â'r UE – ystyried tystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.35 - 16.50)

9.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd yr Aelodau i gyflwyno adroddiad ar y cytundeb ar fasnachu nwyddau rhwng Gwlad yr Iâ, Norwy a’r DU oherwydd hepgoriadau sylweddol yn ei gwmpas o'i gymharu â pherthynas bresennol yr UE â Gwlad yr Iâ a Norwy o dan gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

9.2 Trafododd yr Aelodau gytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd rhyngwladol, a’i nodi.

9.3 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ofyn iddo egluro sut y mae telerau cytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd ryngwladol yn wahanol i'r rhai ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd o dan Gytundeb presennol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

 

(16.50 - 16.55)

10.

Trafodaeth ar yr ymweliad arfaethedig â gogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau yr ymweliad arfaethedig â Gogledd Cymru.

 

(16.55 - 17.05)

11.

Trafodaeth ar Fil y Cytundeb Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd yr Aelodau bapur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Ddeddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE.