Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson a David Melding.

1.3        Nododd y Cadeirydd nad yw Michelle Brown yn aelod o'r Pwyllgor mwyach.

 

(14.00-14.05)

2.

Papurau i’w nodi

2.1

Papur i'w nodi 1 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y papur.

 

2.2

Papur i'w nodi 2 – Adroddiad gan Bwyllgor Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ar Beyond Brexit: how to win friends and influence people – 25 Mawrth 2019

Adroddiad gan Bwyllgor Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ar Beyond Brexit: how to win friends and influence people – 25 Mawrth 2019 [Saesneg yn unig]

 

Cofnodion:

2.2     Nodwyd y papur.

 

(14.05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.05-14.15)

4.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Trafododd a nododd yr Aelodau y cytundebau a ganlyn:

  • Cytundeb partneriaeth economaidd interim rhwng y DU a gwladwriaethau'r Môr Tawel;
  • Cytundeb rhwng y DU a Sbaen ar gyfranogiad gwladolion y ddwy wlad sy'n byw yn nhiriogaeth y llall mewn etholiadau penodol;
  • Cytundeb Rhyngwladol rhwng y DU a Sbaen ar drethiant a diogelu buddiannau ariannol ynghylch Gibraltar.

 

(14.15-14.25)

5.

Monitro trafodaethau'r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau bapur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar negodiadau'r UE.

 

(14.25-14.55)

6.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau y flaenraglen waith ar gyfer mis Mai a mis Mehefin 2019, a chytuno arni.