Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, Ymddiheuriadau, Dirprwyon a Datgan Buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis a Dawn Bowden.

 

(14.00-14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Papur i'w nodi 1 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2.2

Papur i'w nodi 2 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Nodwyd y papur.

 

(14.05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.05-15.05)

4.

Rhaglen Waith Comisiwn yr UE ar gyfer 2018

David Hughes, Pennaeth y Swyddfa Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio breifat ar Raglen Waith Comisiwn yr UE.

 

(15:05-15:35)

5.

Monitro Trafodaethau'r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r UE.

 

(15.35-15.55)

6.

Gwydnwch a pharodrwydd: ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.