Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2017 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1                Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies, Dafydd Elis–Thomas, Dawn Bowden, Mark Isherwood, Jeremy Miles ac Eluned Morgan.

1.2                Roedd Jane Hutt a Rhianon Passmore yn dirprwyo.

 

(09.30-10.30)

2.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru - sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth y DU

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Robin Walker AS, Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2        Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Gweinidog i ofyn am atebion i'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1                Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.40)

4.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1                Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.