Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Roedd Laura Anne Jones yn absennol oherwydd problemau technegol.

1.3         Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

1.4         Diolchodd y Cadeirydd i David Melding am ei waith ar y Pwyllgor a chroesawodd Laura Anne Jones i'r Pwyllgor yn ei le.

 

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Chris Warner - Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1    Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

 

 

(14.30-14.35)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.0.1 Cafodd papurau 1 i 15 eu nodi.

 

3.19

Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch Cynllun Masnachu Allyriadau - 15 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

3.2

Papur i'w nodi 2: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar Farchnad Fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 16 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ategol:

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 19 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

3.4

Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch rhaglenni ariannu’r UE yng Nghymru a dyfodol cyllid ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol yng Nghymru - 20 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ategol:

3.5

Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod ar 30 Mehefin 2020 - 20 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

3.6

Papur i'w nodi 6: Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 27 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ategol:

3.7

Papur i'w nodi 7: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Ysgrifennydd Busnes ac Ysgrifennydd Cymru ynghylch y Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 7 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.8

Papur i'w nodi 8: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar farchnad fewnol y DU - 14 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.9

Papur i'w nodi 9: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 14 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.10

Papur i'w nodi 10: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb rhwng y DU a Gwlad Pwyl - 24 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.11

Papur i'w nodi 11: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch hawliau dinasyddion a fframweithiau cyffredin - 25 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.12

Papur i'w nodi 12: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) - 27 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.13

Papur i'w nodi 13: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch y trefniadau gwahanu rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy - 28 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.14

Papur i'w nodi 14: Marchnad Sengl yr UE - papur gan Dr Kathryn Wright - 28 Awst 2020

Dogfennau ategol:

3.15

Papur i'w nodi 15: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb Rhyng-sefydliadol - Cyfarfodydd Gweinidogol ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol - 4 Medi 2020

Dogfennau ategol:

(14.35)

4.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1    Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.35-14.50)

5.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1    Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.50-14.55)

6.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1    Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r cytundebau canlynol:

·      Cytundeb rhwng Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r DU yn ategu eu Cytundeb o 1993 ar draffig rheilffyrdd rhwng Gwlad Belg a'r DU sy’n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel

·      Cytundeb rhwng yr Iseldiroedd a'r DU ynghylch rheolaethau ffiniau ar draffig rheilffyrdd sy’n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel

·      Cytundeb Arbennig rhwng Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r DU ynghylch materion diogelwch sy'n ymwneud â threnau sy'n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel

 

(14.55-15.10)

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1    Cytunodd yr aelodau i drafod yr eitem hon yn eu cyfarfod ar 24 Medi 2020.