Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/06/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(09.30-09.35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Datganodd Huw Irranca-Davies AS fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(09.35-10.30)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Simon Brindle, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1    Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

3.1    Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

4.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1    Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.00)

5.

Ymchwiliad Is-bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Gytundebau Rhyngwladol yr UE i'r modd y mae Senedd y DU yn craffu ar gytuniadau - trafod ymateb drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1    Trafododd yr Aelodau yr ymateb drafft, a chytunwyd arno.