Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/02/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell.

1.3         Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Ewropeaidd, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Andrew Gwatkin - Llywodraeth Cymru

Emma Edworthy - Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.30-14.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor - Fframweithiau polisi cyffredin: Gwaith craffu gan y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch Bil y Cytundeb Ymadael - 29 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i'w nodi 4: Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

(14.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.35-14.50)

5.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.50-14.55)

6.

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar fframweithiau polisi cyffredin

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.55-15.10)

7.

Gwaith craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

7.1.1 y cytundeb sy’n sefydlu Cymdeithas rhwng Teyrnas Unedig

Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Theyrnas

Moroco;

7.1.2 y cytundeb sy’n sefydlu Cymdeithas rhwng Teyrnas Unedig

Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Theyrnas

yr Iorddonen

7.1.3; y cytundeb sy’n sefydlu Cymdeithas rhwng Teyrnas Unedig

Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth

Kosovo;

7.1.4 y cytundeb Partneriaeth a Chydweithrediad rhwng Teyrnas Unedig

Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a Gweriniaeth

Wsbecistan.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundebau Moroco, yr Iorddonen a Kosovo:

7.2.1 i geisio gwybodaeth bellach am eu rhan wrth drafod y cytundebau hyn (a hefyd yr holl gytundebau cydgysylltiad eraill y bwriedir eu trosglwyddo fel rhan o Raglen y Cytundeb Parhad Masnach), ac

7.2.2 i ddarganfod a yw Llywodraeth Cymru wedi codi unrhyw faterion

mewn perthynas â'u cymhwyso mewn meysydd cymhwysedd datganoledig.

7.3 Cytunodd yr Aelodau i nodi cytundeb Uzbekistan.

 

 

(15.10-15.30)

8.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r flaenraglen waith a chytunwyd arni.

 

(15.30-15.40)

9.

Trafod newid cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau newid i gylch gwaith y Pwyllgor.