Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/11/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Penodwyd Huw Irranca-Davies yn
Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn ar 11 Tachwedd 2019. 1.2
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.3
Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees.
Dirprwyodd Joyce Watson ar ei ran. |
|
(13.30-14.30) |
Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned
Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Des Clifford, Llywodraeth Cymru Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan yr
Aelodau. |
|
(14.30-14.35) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur 1 i'w nodi: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynglŷn â chais i aildrefnu sesiwn graffu - 8 Tachwedd 2019. Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.1 Cytunodd yr Aelodau i gais y Prif Weinidog i
symud ei ymddangosiad gerbron y Pwyllgor i’r flwyddyn newydd. 3.1.2 Cafodd y papur ei nodi. |
||
Papur 2 i'w nodi: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynglŷn â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth ryngwladol - 12 Tachwedd 2019. Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.1 Cafodd y papur ei nodi. |
||
(14.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.35-14.50) |
Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – trafod y dystiolaeth. Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth
i law. |
|
(14.50-15.05) |
Gwaith craffu ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd
yr Aelodau’r Cytundeb ar Wasanaethau Awyr rhwng y DU a Montenegro ac fe’i
nodwyd ganddynt. 6.2 Cytunodd
yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gael rhagor o
wybodaeth am ran Llywodraeth Cymru yn y broses drafod. |