Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2021 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.

1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(14.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 ac eitemau 6 i 9

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.00-14.30)

3.

Fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid - briffio technegol

Emily Miles - Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Nathan Barnhouse - Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio technegol ar y fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

 

(14.40-16-10)

4.

Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafodaeth bord gron gydag academyddion

Yr Athro Nicola McEwen - Prifysgol Caeredin

Akash Paun - Institute for Government

Yr Athro Daniel Wincott - Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r panel yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

 

(16.10-16.15)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Papur i’w nodi 1: Papur briffio Cyngor ar Bopeth Cymru: newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur.

 

5.2

Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Lywydd Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd a Llywydd Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau y DU â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nodwyd y papur.

 

(16.15-16.30)

6.

Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.30-16.40)

7.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd yr Aelodau y cytundeb ar fasnachu nwyddau rhwng Gwlad yr Iâ, Norwy a'r DU.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn ynglŷn â’r cytundeb.

 

(16.40-16.50)

8.

Trafod y dogfennau cryno ar y Fframweithiau Cyffredin a ddaeth i law

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dogfennau a ddaeth i law, a’u nodi.

 

(16.50-17.00)

9.

Y berthynas â'r UE yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu'r Aelodau yn trafod, a chytunwyd ar eu dull gweithredu o ran y berthynas â’r UE yn y dyfodol.