Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/12/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.30-10.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Claire Morgan, Cyfarwyddwr - Gofalwyr Cymru Simon Hatch, Cyfarwyddwr - Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Llinos Roberts, Prif Swyddog - Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr Papur 1 – Gofalwyr Cymru Papur 2 - Cynghrair Cynhalwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. |
|
(10.45-11.45) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag ADSS Cymru Nicola Stubbins –
Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych Alwyn Jones – Dirprwy Lywydd
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Papur 3 – ADSS Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan ADSS Cymru. 3.2 Cytunodd Nicola Stubbins, Llywydd ADSS Cymru,
i anfon nodyn esboniadol at y Pwyllgor i nodi unrhyw fylchau yn y data sy’n
cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru ynghylch dangosyddion gofal cymdeithasol
allweddol i helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a sut i wella’r
broses hon. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cytunodd y
Pwyllgor i’r cynnig y dylid gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11.45.11.55) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.55-12.20) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn, gan gytuno ar ei
flaenoriaethau o ran busnes yn ystod rhan o weddill y tymor. 6.2 Hefyd,
cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at yr eitem hon yn y flwyddyn newydd i gytuno
ar flaenoriaethau eraill a’r amserlen ar gyfer busnes cyn y diddymiad. |
|
(12.20-12.30) |
Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, Adroddiad 2 - Effaith ar iechyd meddwl: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i anfon unrhyw sylwadau
terfynol ac i gytuno ar yr adroddiad dros e-bost. |