Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(09.30-11.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru

Dr Rob Orford, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol a Phrif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd) – Llywodraeth Cymru

Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol – Llywodraeth Cymru

Dr Brendan Collins, Cadeirydd, Is-grŵp Modelu Polisi; Aelod TAC, Pennaeth Economeg Iechyd – Llywodraeth Cymru

Craiger Solomons, Cadeirydd, Fforwm Modelu Cenedlaethol Cymru Gyfan; Aelod TAC, Prif ddadansoddwr, Cyfarwyddiaeth Iechyd Sylfaenol a Gofal Iechyd – Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau o Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd i drafodion y Pwyllgor gael eu rhoi ar stop am 11am er mwyn i’r Aelodau a’r tystion nodi dau funud o dawelwch ar gyfer Diwrnod y Cadoediad.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(11.00-11.30)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.