Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

2.1  Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3.

 

(09.30-10.00)

3.

COVID-19: Trafodaeth ar y prif faterion o ran yr ymchwiliad i effaith Covid-19 ar iechyd meddwl

Papur 1 – Papur materion allweddol

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y themâu allweddol sydd wedi codi yn sgîl y dystiolaeth a glywsom hyd yma ar effaith Covid-19 ar iechyd meddwl, a chytunwyd i ail-afael yn y drafodaeth ar ôl y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog.

 

(10.30-11.30)

4.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus - Llywodraeth Cymru

Liz Davies, Uwch Swyddog Meddygol Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus - Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau yn ôl i’r cyfarfod.

4.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

 

(11.30)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 23 Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.2

Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch cyfleusterau gorffwys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch craffu ar reoliadau Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.5

Adroddiad y Cynghorau Iechyd Cymuned: Gofal Mamolaeth yn ystod Pandemig y Coronafeirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

5.6

Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau trawma ac orthopedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.7

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau trawma ac orthopedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(11.30-12.00)

7.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd gasgliadau ac argymhellion i’w cynnwys yn yr adroddiad drafft.

7.2 Fel eitem Unrhyw Fater Arall heb ei drefnu, mewn perthynas ag eitem 5.5, cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar ofal mamolaeth yn ystod y pandemig.