Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/10/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. |
|
(09.30-10.40) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Papyrus a Samariaid Cymru Kate Heneghan, Pennaeth Papyrus
yng Nghymru Sarah Stone, Cyfarwyddwr
Gweithredol Cymru - Samariaid Cymru Briff ymchwil Papur 1 – Samariaid Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Papyrus a Samariaid Cymru. |
|
(11.00-12.10) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion Professor
Ann John, Professor of Public Health and Psychiatry, Swansea University, and
Chair of the National Advisory Group on suicide and self-harm prevention Dr
Antonis Kousoulis, Director for England and Wales - Mental Health Foundation Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John
a Dr Antonis Kousoulis. |
|
(12.10) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Gofal Iechyd Cilyddol a Thrawsffiniol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Cod Ymarfer ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i roi ateb
ysgrifenedig i’r Gweinidog. |
||
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o
weddill y cyfarfod heddiw. |
|
(12.10-12.15) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15-12.20) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol a'r dull gweithredu ar gyfer yr adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig
ychwanegol gan y Gweinidog a thrafododd ei gasgliadau ar gyfer yr adroddiad
drafft. Gan nad oes cyfarfod Pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf,
cytunodd yr aelodau i gymeradwyo’r adroddiad terfynol drwy e-bost. |
|
(12.20-12.30) |
Blaenraglen Waith Papur 4: Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer yr
hanner tymor nesaf, hyd at wyliau’r Nadolig. Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei
waith yn parhau i ganolbwyntio ar effaith Covid-19 ar iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru, a pharhau i oedi pob busnes arall nad yw’n
gysylltiedig â Covid-19. Bydd hyn yn cael ei adolygu ar ddechrau tymor y
gwanwyn. |