Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(09.30-10.50)

2.

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ynghylch: (i) cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre; (ii) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol; ac (iii) ymchwiliad y Pwyllgor i Covid-19

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol – Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

2.2 Gyda chytundeb y Cadeirydd, ymunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r sesiwn dystiolaeth ar ôl y drafodaeth ar y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig.

2.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu â’r Pwyllgor gopi o'r llythyr a gafwyd gan yr Arglwydd Bethell, Arweinydd y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol.

2.4. Cafodd y Pwyllgor anawsterau technegol a bu’n rhaid dod â’r trafodion i ben am gyfnod byr.

 

(11.00-12.10)

3.

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru ynghylch: (i) cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre; (ii) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol; ac (iii) ymchwiliad y Pwyllgor i Covid-19 (parhad)

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol – Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG – Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Parhaodd y Pwyllgor â’i sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

 

(12.10)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghylch cyfleusterau gorffwys yn Ysbyty Athrofaol y Grange

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â’r Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytuno i ymateb.

 

(12.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(12.10-12.30)

6.

Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 O ran Canolfan Ganser Felindre, cytunodd y Pwyllgor i aros am ganfyddiadau Ymddiriedolaeth Nuffield. 

6.2. Mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddo amlinellu’r pryderon sydd ganddo o hyd.

6.3 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda chwestiynau nad modd i’r Aelodau eu gofyn yn ystod y cyfarfod oherwydd cyfyngiadau amser.