Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/06/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y cyfarfod.  

 

(09.30-11.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid

Samia Saeed-Edmonds, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gynllunio

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2. Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor, ac at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gadarnhau dull Llywodraeth Cymru o ran cyhoeddi’n rheolaidd y data y mae’n eu casglu ynghylch monitro gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig a lefelau gwaith y gwasanaethau hyn.

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

 

(11.10-11.20)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.20-12.20)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon

Dr Olwen Williams, Is-lywydd - Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

Derin Adebiyi, Uwch-gynghorydd Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru)

 

Papur 1 – Coleg Brenhinol y Meddygon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Coleg Brenhinol y Meddygon.

 

(12.20)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Adroddiadau Statudol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(12.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.20-12.30)

8.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.