Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/05/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Gwnaeth y Cadeirydd ddatgan ei fod ef a rhai o’i deulu yn aelodau o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

 

(09.30-10.30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a’r Coleg Nyrsio Brenhinol

Helen Whyley, Cyfarwyddwr - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dr Peter Saul, Cyd-gadeirydd - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymru

Dr Rob Morgan, Is-gadeirydd Polisi - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Papur 2 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1  Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

 

(10.40-11.00)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.00-12.00)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Judy Thomas, Cyfarwyddydd Gwasanaethau Contractor - Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Mark Griffiths, Cadeirydd - Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Elen Jones, Cyfarwyddwr - Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru

Suzanne Scott-Thomas, Cadeirydd - Bwrdd Fferylliaeth Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru

Cofnodion:

5.1 Dywedodd y Cadeirydd fod aelod o’i deulu yn Gynorthwyydd Fferylliaeth.

5.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fferylliaeth Gymunedol Cymru a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

 

 

(12.00)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Llythyr gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol am COVID-19 yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 7 Mai 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1  Nododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr. Codwyd pryderon ynghylch cyfathrebu rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, a chytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd y materion hyn gyda’r ddwy ochr.

 

(12.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1  Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(12.00-12.10)

8.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.10-12.30)

9.

Ymchwiliad i effaith Covid-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: ymgysylltu â’r cyhoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu o ran ymgysylltu â’r cyhoedd a chytunodd arno.