Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, a dirprwyodd Carwyn Jones AC ar ei rhan. |
|
(10.00-11.00) |
Briff technegol ar Covid-19 Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru,
Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Gwnaeth
Dr Frank Atherton ddatganiad rhagarweiniol byr. 2.2 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Frank Atherton a Dr Rob Orford. |
|
(11.15-12.15) |
COVID-19: Bil Brys Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd,
Llywodraeth Cymru Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Sapna Lewis, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a’u swyddogion. 3.2 Cytunodd
Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu
nodyn i'r Pwyllgor ynghylch gofal iechyd parhaus a'r gwahaniaethau rhwng y
prosesau yng Nghymru a Lloegr. 3.3.
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor, ar ôl
cyhoeddi’r Bil, i egluro a yw’r pŵer i gau porthladdoedd a meysydd awyr
Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. 3.4
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y
weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n ymwneud ag elfennau yn y Bil y bydd angen
cymeradwyaeth Seneddol arnynt cyn iddynt gael eu deddfu yn hytrach na
chymeradwyaeth y Gweinidog. 3.5
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i roi nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y
trafodaethau a'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r diwydiant bwyd
a'i staff. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(12.15-12.30) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |