Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.

 

(09.30-11.00)

2.

Gwaith Craffu Cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Martin Woodford, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Jason Killens, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Ansawdd a Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1 – Ymddiriedolaeth GIG Gwasanethau Ambiwlans Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

2.2 Dywedodd cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod penderfyniadau ar y cyd ynghylch dargyfeirio ambiwlansys yn cael eu gwneud gyda thimau o fyrddau iechyd lleol.  Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am y timau hyn.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1  Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.00-11.15)

4.

Gwaith Craffu Cyffredinol ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd, a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am eglurhad o nifer o bwyntiau.