Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.   Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.00)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dafydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

David Rosser, Prif Swyddog Rhanbarthol - Llywodraeth Cymru

Jon Beynon, Dirprwy Bennaeth yr Is- Adran Chwaraeon - Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – Cyllideb Ddrafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

(10.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4 y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig o dan reol sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o eitem 4 y cyfarfod heddiw.

 

(10.00-10.15)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.20-11.50)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd - Llywodraeth Cymru

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid - Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio - Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 2 - Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyllideb Ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu manylion am;

 

Ø  faint sy'n cael ei wario ym maes gofal sylfaenol yn GIG Cymru, y diffiniad o ofal sylfaenol sydd wedi'i ddefnyddio a'i dderbyn yn yr Alban, beth mae hynny'n ei gwmpasu, sut mae Cymru'n cymharu â hynny, a sut mae'r gyllideb hon yn symud hynny ymlaen.

Ø   

Ø  camau pob un o'r 19 prosiect gofal sylfaenol a gofal cymunedol y disgwylir iddynt gael eu cyflawni ledled Cymru erbyn 2021.

Ø   

Ø  pryd fydd yr adroddiadau gan y byrddau iechyd sy'n darparu diweddariad blynyddol ar eu cynnydd wrth symud adnoddau tuag at ofal sylfaenol ar gael ar gyfer gwaith craffu.

 

 

 

(11.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1  Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

 

(11.50-12.05)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1  Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.05-12.20)

8.

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Papur 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1  Trafododd y Pwyllgor y llythyr.