Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.30)

1.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod yr adroddiad drafft

 

Adroddiad y Gyllideb Ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(09.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

 

(09.30-10.15)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

David Rosser, Cyfarwyddwr Chwaraeon, Llywodraeth Cymru

Gillian Otlet, Is-adran Chwaraeon, Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

 

Papur 1 – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

 

 

(10.30-11.30)

4.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Claire Morgan, Cyfarwyddwr, Gofalwyr Cymru

Simon Hatch, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Gareth Howells, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

Briff Ymchwil

 

Papur 2 – Gofalwyr Cymru

Papur 3 – Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

 

 

(11.35-12.30)

5.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru

 

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Victoria Lloyd, Prif Weithredwr, Age Cymru

 

Papur 4 – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Papur 5 – Age Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a chynrychiolydd o Age Cymru.

 

(13.05-13.55)

6.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda Hafal

Kay John-Williams, Defnyddiwr Gwasanaeth a Swyddog Cyfranogiad Gofalwyr, Hafal

David Southway, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal
Ceri Matthews, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal
Tracy Elliott, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal

 

Papur 6 - Hafal

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Hafal.

 

(13.55-14.35)

7.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda Mencap Cymru

Dr Leanne McCarthy-Cotter, Rheolwr Dylanwadu, Mencap Cymru

Wayne Crocker, Cyfarwyddwr, Mencap Cymru

Dot Gallagher, Rhiant-ofalwr/Cadeirydd Mencap Môn

Jane Young, Rhiant-ofalwr/Aelod o Mencap Môn

 

Papur 7 – Mencap Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Mencap Cymru.

 

(14.35)

8.

Papur(au) i'w nodi

8.1

Deintyddiaeth yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ynghylch practisau prototeip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

8.2

Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ac Alzheimer's Society Cymru ynghylch Gofal Dementia Siaradwyr Cymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(14.35)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw a dechrau'r cyfarfod ar 21 Tachwedd 2018

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac eitem 1 y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2018.

 

(14.35-14.45)

10.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i symud yr eitem hon i gyfarfod yn y dyfodol.