Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

 

(09.30-10.15)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 - Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y byrddau iechyd

Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Fiona Kinghorn, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Conrad Eydmann, Pennaeth Strategaeth a Chomisiynu Partneriaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y byrddau iechyd.

2.2 Cytunodd Julie Bishop i roi gwybodaeth am adeg  pan fyddai gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd yn gyfforddus â’r cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a faint y mae pobl yn ei yfed. 

(10.20 - 11.05)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 - BMA Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr David Bailey, BMA Cymru

Dr Ruth Alcolado, Coleg Brenhinol y Meddygon

Dr Ranjini Rao, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr BMA Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.

 

(11.15 - 12.00)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3 - Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

David Riley, Cadeirdydd Penaethaid Safonau Masnach Cymru, a Phennaeth Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd yn Ynys Môn

David Jones, Cydlynydd Cenedlaethol, Safonau Masnach Cymru

Simon Wilkinson, Swyddog Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

4.2 Cytunodd Simon Wilkinson i archwilio ffyrdd gwahanol/ychwanegol o gryfhau’r agenda rheoli alcohol yng Nghymru ac i baratoi nodyn i’r Pwyllgor, os oedd hynny’n briodol. 

 

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - llythyr gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1.

 

5.2

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.00 - 12.15)

7.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 ac 4 o'r cyfarfod.