Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd - Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2016 10.00
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 424KB) Gweld fel HTML
(244KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC. |
||
(09.15 - 10.15) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 4 - Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd - WEDI'I OHIRIO Julie Barratt, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Dogfennau ategol: |
|
(10.20 - 11.20) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 5 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru Naomi Alleyne, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Simon Wilkinson, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Robert Hartshorn,
Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru Dr Sarah Jones, Cyfarwyddwyr
Diogelu'r Cyhoedd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru. 3.2 Cytunodd Simon Wilkinson i adolygu'r adrannau yn y Bil sy'n yn ymwneud
ag Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd, a darparu nodyn yn esbonio a yw'r Bil fel
ag y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn eglur o ran sut y bydd cynnal
Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn arwain at wella iechyd y cyhoedd. |
|
(11.25 - 12.25) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 6 - BMA Cymru Wales a Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Phil Banfield,
BMA Cymru Wales Dr Stephen
Monaghan, BMA Cymru Wales Dr Jane Fenton
May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Rebecca Payne,
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg
Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. 4.2 Cytunodd Dr Stephen Monaghan i ddarparu tystiolaeth ynghyd ag unrhyw
waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud ar feirysau a gludir yn y gwaed a'u
tarddiad yng nghyd-destun gweithredfnau arbennig a thyllu'r corff. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.25 - 12.40) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiynau tystiolaeth 4, 5 a 6 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru, BMA Cymru a Choleg Brenhinol
yr Ymarferwyr Cyffredinol. |