Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/01/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Tracey Breheny, Dirprwy
Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Bregus –
Llywodraeth Cymru Peter Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd – Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil Papur 1 –
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg. 2.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu
crynodeb o'r wybodaeth a gafwyd gan fyrddau iechyd lleol yn nodi sut y byddai'r
ail £3.5 miliwn a ryddhawyd o Gronfa Gwella'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn cael
ei wario yn unol â blaenoriaethau cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd
Meddwl. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4. |
|
(10.45-11.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan
awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw. |
|
(11.15-11.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dafydd
Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Steffan Roberts,
Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon – Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil Papur 2 -
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. 5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i baratoi nodyn
ar y meini prawf a ddefnyddir gan Chwaraeon Cymru i flaenoriaethu ceisiadau am
arian cyfalaf i wella cyfleusterau chwaraeon, a sut y mae hyn yn sicrhau bod
gwariant yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o
weddill y cyfarfod heddiw. |
|
(11.45-12.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan
awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw. |