Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro Robert West a'r Athro Susan Michie

Yr Athro Robert West, Athro mewn Seicoleg Iechyd - Coleg Prifysgol Llundain

Yr Athro Susan Michie, Athro Seicoleg Iechyd a Chyfarwyddwr y Ganolfan er Newid Ymddygiad – Coleg Prifysgol Llundain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Robert West a'r Athro Susan Michie.

2.2 Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a oes gan y cyhoedd ymdeimlad o ymgysylltu a grymuso i gymryd rhan yn yr ymateb i’r pandemig, cytunodd yr Athro Susan Michie i ddarparu gwybodaeth bellach am ymgynghori â dinasyddion a chyd-gynhyrchu atebion wedi'u teilwra.

 

(10.45-12.00)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Athro David Heymann a'r Athro Devi Sridhar

Yr Athro David Heymann, Athro Epidemioleg Clefydau Heintus - Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain a Phennaeth y Ganolfan ar Ddiogelwch Iechyd Byd-eang yn Chatham House, Llundain
Yr Athro Devi Sridhar, Athro a Chadeirydd Iechyd Cyhoeddus Byd-eang - Prifysgol Caeredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro David Heymann a'r Athro Devi Sridhar.

 

(12.00)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.00-12.30)

6.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.