Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Briff ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 2.2. Cytunodd y Cynghorydd Huw David i roi gwybodaeth i’r
Pwyllgor am y gwaith sy’n mynd rhagddo i bennu union gostau pob darparwr yng
Nghymru er mwyn sicrhau bod y cyllid dynodedig o £40 miliwn gan Lywodraeth
Cymru yn cael ei ddyrannu i dalu costau gwirioneddol yn hytrach nag amcangostau. 2.3. Cytunodd y Cynghorydd Huw David i roi’r ffigurau
cyfredol ar gyfer absenoldeb staff yn y sector gofal cymdeithasol i’r Pwyllgor. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 4 yn y cyfarfod heddiw. |
|
(10.40-11.00) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(11.00-12.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol Ann Lloyd, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin
Bevan Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan (Cyfarwyddwr Aur) Mark Polin, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr Simon Dean, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau
Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(Cyfarwyddwr Aur). Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Papur 2 - Conffederasiwn GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a
Betsi Cadwaladr. |
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw. |
|
(12.30-12.40) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.40-13.00) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni. |