Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

1.2 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Angela Burns AC mai hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Sepsis, ac mai Terence Canning, yn ei rôl gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy’n darparu ysgrifenyddiaeth i'r Grŵp Trawsbleidiol. Datganodd Angela Burns AC ei bod hefyd wedi goroesi sepsis.

 

(09.30-10.30)

2.

Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU

Terence Canning, Prif Weithredwr Cymru, Ymddiriedolaeth Sepsis y DU

John James

Joy James

 

Briff Ymchwil

Pecyn ymgynghori

Pecyn ymgynghori (preifat)

 

Papur 1 – Ymddiriedolaeth Sepsis y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU a Mr a Mrs James, goroeswr sepsis a'i wraig.

 

(10.45-11.45)

3.

Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, Gwelliant Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr – Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Papur 2 – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.45-12.00)

6.

Sepsis: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.30)

7.

Gofalu am ein dyfodol: Ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i rannu eu barn ar yr ymateb a chynnal digwyddiad ymgysylltu cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.