Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.00) |
Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething
AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio – Llywodraeth Cymru Briff ymchwil Datganiad
Ysgrifenedig: Gwella gwasanaethau awtistiaeth Papur gan
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 2.2
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol am y rhaglen ymgysylltu y mae'r Gweinidog a'i swyddogion yn ei
chynnal fel rhan o'r ymgynghoriad a fydd yn llywio'r Cod Ymarfer. 2.3
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol ynghylch cyhoeddi cofrestr meddygon teulu ar gyfer
awtistiaeth a chyhoeddi data am amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc. |
|
(10.00-10.40) |
Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething
AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Frances Duffy,
Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru Sarah Tyler,
Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Bil
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) Bil
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) – Memorandwm Esboniadol Briff ymchwil Papur 1 – Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Papur 2 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Papur 2a – Addysg a Gwella Iechyd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 O dan
Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant
fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol. Cadarnhaodd
nad oes unrhyw fuddiant penodol ar hyn o bryd gan fod indemniad bellach yn cael
ei dalu ar lefel practis, ac nid ar lefel bersonol. 3.2 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.3
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol ynghylch trosglwyddo asedau. |
|
(10.45-11.45) |
Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliadau Amddiffyn Meddygol Mary-Lou Nesbitt,
Pennaeth Cysylltiadau Llywodraethol ac Allanol, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol Dr Matthew Lee,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol Emma Parfitt, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cynghori a Chyfreithiol,
Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban David Sturgeon,
Cyfarwyddwr Datblygu, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban Papur 3 - Yr
Undeb Amddiffyn Meddygol Papur 4 - Y
Gymdeithas Amddiffyn Meddygol Papur 4a – Undeb
Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 O dan
Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant. 4.2 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliadau Amddiffyn Meddygol. |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Pwysau Iach: Cymru Iach Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch hawliau plant yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
|
(11.45-12.15) |
Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth ac ystyried themâu sy'n codi Cofnodion: 7.1 Nododd
y Pwyllgor y themâu allweddol i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft. |
|
(12.15-12.30) |
Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: |