Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/06/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC, ac roedd Mick Antoniw AC yn
bresennol fel dirprwy. |
|
(9.30-11.00) |
Sesiwn graffu gyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre Steve Ham, Prif
Swyddog Gweithredol Carl James,
Cyfarwyddwr Trawsnewid Strategol, Cynllunio, Perfformiad ac Ystadau Dr Jacinta
Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Cath O’Brien,
Prif Swyddog Gweithredu Briff Ymchwil Papur 1 – Ymddiriedolaeth
GIG Felindre Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a chytunodd i
ysgrifennu ati i gael rhagor o wybodaeth. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllid atal hunanladdiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch cyllid atal hunanladdiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. Yn ystod y sesiwn
breifat, trafododd y Pwyllgor nifer o faterion a gododd o lythyr y Gweinidog yr
oedd am iddynt gael eu cynnwys fel rhan o waith dilynol yn y maes hwn yn y
dyfodol. |
||
Llythyr gan Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ynghylch yr adroddiad ‘Gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc’ Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
|
(11.00-11.10) |
Sesiwn graffu gyffredinol gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at
yr Ymddiriedolaeth i gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ei model gofal
clinigol newydd a'i threfniadau ar gyfer rhoi gwaed. |
|
(11.10-11.40) |
Hepatitis C; Trafod yr adroddiad drafft Papur 5 – Hepatitis C: adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ychwanegu rhai
casgliadau pellach mewn
perthynas â gwasanaethau carchar. Bydd y Pwyllgor yn trafod y newidiadau yn y
cyfarfod nesaf. |
|
(11.40-11.45) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) - Trafod amserlen Papur 6 - Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac
Ymgysylltu) (Cymru): Trafod amserlen Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ddrafft ar gyfer craffu ar y Bil. |
|
(11.45-12.00) |
Blaenraglen waith Papur 7 - Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ystyriodd
y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer gwaith craffu pellach yn dilyn y sesiwn gyda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar 23 Mai 2019. Yn y lle cyntaf, cytunodd i
wahodd y panel trosolwg annibynnol ar famolaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth
Cymru i drafod ei waith mewn cyfarfod yn y dyfodol. |