Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

1.4        Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

1.5        Yn unol â rheol sefydlog 17.24A, datganodd David Rees AC fod ei wraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

 

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Alex Howells, Prif Weithredwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Julie Rogers, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Dirprwy Brif Weithredwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru

Sarah McCarty, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 - Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru.

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol): Llythyr gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Gweinidog Gwladol dros Iechyd - 09 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 o'r cyfarfod ar 31 Ionawr

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 31 Ionawr, pan fydd y Pwyllgor yn gwneud gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o'i ymchwiliad ar effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr.

 

(11.00 - 11.15)

5.

Craffu cyffredinol: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.