Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/06/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC, ac, fel y cytunwyd ar 23 Mai 2018, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Rhun ap Iorwerth yn Gadeirydd dros dro ar
gyfer y cyfarfod hwn. 1.3
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC hefyd. |
|
(09.30 - 10.30) |
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru Nadine Morgan, Pennaeth Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd
Iechyd Addysgu Powys Will Beer, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Su Mably, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus
Cymru Briff Ymchwil Papur 1 – Conffederasiwn GIG Cymru Papur 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Papur 6 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Papur 7 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Papur 8 – Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys a
Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol ac
Iechyd Cyhoeddus Cymru. 2.2
Cytunodd Nadine Morgan i roi enghreifftiau o arfer gorau o ran hyfforddiant
staff. Cytunodd Rhiannon Jones, Will Beer a Nadine Morgan i roi data ar gyfran
y cleifion a welir o fewn pum diwrnod yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn Llaw
at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19. |
|
(10.35 - 11.10) |
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr y gwasanaethau brys Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake (Heddlu De Cymru), Prif Swyddog
Arweiniol Cymru ym maes Iechyd Meddwl, Grŵp Prif Swyddogion Cymru Alison Kibblewhite, Pennaeth Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Bleddyn Jones, Pennaeth Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Papur 9 – Uned Cyswllt yr Heddlu Papur 10 – Heddlu De Cymru - Trafnidiaeth Papur 11 – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Papur 12 – Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Papur 13 – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o wasanaethau brys. |
|
(11.15 - 12.00) |
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Claire Bevan, Cyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch, Profiad Cleifion a Nyrsio,
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Stephen Clarke, Pennaeth Iechyd Meddwl, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesedd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru Papur 14 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. |
|
(12.45 - 13.25) |
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Prawf EM Kenny Brown, Cyfarwyddwr Carchardai Sector Cyhoeddus yn Ne Cymru, Gwasanaeth
Carchardai a Phrofiannaeth EM Sophie Lozano, Arweinydd Diogelwch Grŵp Carchardai,
Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM Papur 15 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Wasanaethau Carchardai a
Phrofiannaeth EM. 5.2
Cytunodd Kenny Brown i ystyried ymhellach nifer yr achosion o hunanladdiad
ymhlith troseddwyr yng Nghymru y nodwyd eu bod 'mewn perygl' ac yn cael eu
rheoli o dan weithdrefnau Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm (ACCT) ac i
ysgrifennu at y Pwyllgor. |
|
(13.30 - 14.10) |
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Network Rail Ian Stevens, Rheolwr Rhaglen - Atal Hunanladdiad, Network Rail Yr Uwch-arolygydd Mark Cleland, Heddlu Trafnidiaeth Prydain Papur 16 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Network Rail. 6.2
Cytunodd yr Uwch-arolygydd Mark Cleland i roi enghreifftiau o astudiaethau
achos lle roedd dull amlasiantaethol, gan gynnwys Network Rail, wedi bod yn
llwyddiannus. |
|
(14.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 7.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(14.10 - 14.20) |
Atal hunanladdiad: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |