Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Amseriad disgwyliedig: Drafft 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 604KB) Gweld fel HTML (364KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.00 - 09.45)

2.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 1 - Y Gymdeithas Alzheimer's

Sue Phelps, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer's yng Nghymru:

Dr Ed Bridges, Rheolwr Materion Allanol y Gymdeithas Alzheimer's yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimer.

2.2 Cytunodd Cymdeithas Alzheimer i ddarparu nodyn gyda'i barn ar y materion penodol sy'n berthnasol i bobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n datblygu dementia.

 

(09.45 - 10.30)

3.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 2 - Age Cymru a Cynghrair Cynhalwyr Cymru

Rachel Lewis, Rheolwr Polisi, Age Cymru

Kieron Rees, Rheolwr Materion Allanol, Cynghrair Cynhalwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Age Cymru a Chynghrair Gofalwyr Cymru.

3.2 Cytunodd Age Cymru i ddarparu gwybodaeth am y cynllun Robin ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan.

3.3 Cytunodd Cynghrair Gofalwyr Cymru i ddarparu gwybodaeth am y cynllun Spice yn Abertawe.

 

(10.45 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 3 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu

Dr Victor Aziz, Cadeirydd Cyfadran yr Henoed yng Ngholeg Brenhinol y Seicatryddion yng Nghymru, a Seiciatrydd Ymgynghorol yr Henoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dr Jane Fenton May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion  a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

 

(11.30 - 12.15)

5.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 4 - Dr Les Rudd

Dr Les Rudd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd  o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynglŷn ag Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Alzheimer, Age Cymru, Cynghrair Gofalwyr Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

9.

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â’i ymchwiliad ‘Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â’i ymchwiliad 'Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan'.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.