Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/03/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rees AS, roedd Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei ran
fel dirprwy. |
|
(09.30-11.40) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething
AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Frank
Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru – Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford,
Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd – Llywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif
Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr
Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethiant y GIG – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i
swyddogion. |
|
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw. |
|
(11.40-11.55) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(11.55-12.10) |
Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 3 - Effaith ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a fydd yn cael
ei gylchredeg drwy e-bost. |