Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/01/2021 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Andrew RT Davies AS am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor a chroesawodd Angela Burns AS i'r Pwyllgor.

(09.30-10.30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

Jean White, Prif Swyddog Nyrsio – Llywodraeth Cymru

 

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. 

(10.45-11.45)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Giri Shankar, Arweinydd Proffesiynol Diogelu Iechyd a Chyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i COVID-19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Robin Howe, Prif Arweinydd Proffesiynol ym maes Microbioleg – Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Papur 1: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

3.2 Cytunodd Dr Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor gopi o adroddiad tueddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru o’i arolwg ymgysylltiad cyhoeddus pan fydd ar gael. 

3.3 Cytunodd Dr Giri Shankar i ddarparu manylion yr amserlen fonitro ar gyfer effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19 (gan gynnwys yr amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos y mae unigolyn yn ei gael), ac i amlinellu rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses fonitro.

3.4 Cytunodd Dr Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor Arolygon Neges Destun ynghylch Hyder mewn Ymlyniad Cysylltiadau (ACTS) diweddar i ddangos sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy'n rheoli ac yn cydlynu Profi, Olrhain, Diogleu a'r system olrhain cysylltiadau. 

(11.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11:45 – 12:05)

5.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(12:05-12.20)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau a gytunir drwy’r e-bost.