Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3.      Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AS.

 

1.4.      Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Huw Irranca-Davies AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

 

(13.45 - 14.30)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 1

Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Fiona Liddell, Rheolwr, Helpforce Cymru

Noreen Blanluet, Prif ymgynghorydd, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

·         Fiona Liddell, Rheolwr, Helpforce Cymru

·         Noreen Blanluet, Prif ymgynghorydd, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y tystion i rannu enghreifftiau o arfer da a modelau ymgysylltu a chyd-gynhyrchu a ddatblygwyd ac a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig.

 

2.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwersi a ddysgwyd ynghylch rheolaeth ariannol yn ystod y pandemig.

 

(14.45 - 15.30)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 2

Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, y Groes Goch Brydeinig

Jas Bains, Prif Weithredwr, Hafod

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, y Groes Goch Brydeinig

·         Jas Bains, Prif Weithredwr, Hafod

 

(15.45 - 16.45)

4.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 3

Carol Mack, Cadeirydd, Fforwm Cyllidwyr Cymru

Rebecca Watkins, Cyfarwyddwr y Sefydliad, Moondance Foundation

Richard Williams, Prif Weithredwr, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Carol Mack, Cadeirydd, Fforwm Cyllidwyr Cymru      

·         Rebecca Watkins, Cyfarwyddwr y Sefydliad, Moondance Foundation

·         Richard Williams, Prif Weithredwr, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

·         John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

5.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Tystiolaeth ychwanegol gan Gymorth i Fenywod Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol gan Gymorth i Fenywod Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i COVID-19.

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.

 

5.3

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.

 

5.4

Papur briffio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ofal preswyl yng Nghymru a'r pandemig COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a. Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ofal preswyl yng Nghymru a’r pandemig COVID-19.

 

5.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau COVID-19.

 

5.6

Gohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 

5.7

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 

5.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cysgu ar y stryd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.8.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cysgu ar y stryd.

 

5.9

Llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag anghydraddoldeb yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.9.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag anghydraddoldeb yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y materion a godwyd.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(16.45 - 17.00)

7.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - trafod y dystiolaeth a gafwyd.

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.