Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3. Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.30 - 14.45)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydlynu Argyfwng COVID-19, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·         Emma Williams, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·         Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

 

(15.00 - 16.15)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

·         Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

 

3.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu:

·         rhestr o aelodau'r grŵp cyfathrebu hygyrch;

·         y dyddiad cau i’r grŵp cyllido cynaliadwy ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais gytuno ar y model cyllido cynaliadwy.

 

4.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd pob Pwyllgor ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd pob Pwyllgor ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

 

4.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020.

 

4.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

 

4.4

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig.

 

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag effaith y pandemig COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag effaith y pandemig COVID-19.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(16.15 - 16.30)

6.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a cytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(16.30 - 16.45)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig - trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu ymateb ar y cyd gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.