Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

1.3. Os bydd y Cadeirydd yn gorfod gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, nododd y bydd Dawn Bowden AS yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(14.45 - 15.45)

2.

Craffu ar adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella

Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Archwiliadau

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019/20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·       Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella

·       Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Archwiliadau

 

2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn y cwestiynau nad oedd amser i’w trafod yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghylch yr ymchwiliad i COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghylch yr ymchwiliad i COVID-19.

 

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

3.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 28 Medi 2020

Cofnodion:

4.1.  Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(15.45 - 16.00)

5.

Craffu ar adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.

 

(16.00 - 16.15)

6.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – trafod trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) cyn cytuno arnynt.