Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r cyfarfod.

1.2       Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

1.3       Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(14.00-15.00)

2.

Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar ddigartrefedd

Rhys Gwilym-Taylor, Uwch-swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Crisis

Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rhys Gwilym-Taylor, Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Crisis

·       Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

·       Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

 

2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd Shelter Cymru i ddarparu data ar ymatebion awdurdodau lleol i ddigartrefedd yn ystod y pandemig.

 

(15.15-16.15)

3.

Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar dai

Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol / Dirprwy Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Matt Dicks, Cyfarwyddwr, CIH Cymru

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Llefarydd ar Dai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Calum Davies, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol / Dirprwy Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

·       Matt Dicks, Cyfarwyddwr, CIH Cymru

·       Y Cynghorydd Andrea Lewis, Llefarydd ar Dai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Calum Davies, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl

 

3.2 Yn ystod y cyfarfod:

  • Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gael gwared yn raddol ar yr angen blaenoriaethol ar gyfer pobl ddigartref yn yr Alban.
  • Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gyngor Abertawe ynghylch datblygu cartrefi newydd i gefnogi’r adferiad economaidd ehangach.

 

(16.15)

4.

Papur i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai - 30 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai.

 

(16.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2020

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(16.15-16.25)

6.

Ymchwiliad i effaith Covid-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

 

(16.25-16.30)

7.

Ystyried gohebiaeth â'r Llywydd ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Llywydd ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).