Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideo gynadledda drwy Zoom

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/05/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

1.2  Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi   penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd, pe bai'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden MS yn dod yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

 

(10.00-11.00)

2.

COVID-19 a'i effaith ar faterion yn ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor - sesiwn graffu â’r Gweinidog

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i swyddogion ynghylch Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i'r pandemig.

2.2 Cytunodd y Gweinidog, os yn bosibl, i ddarparu rhagor o wybodaeth am nifer y bobl sy'n cymryd gwyliau morgais a nifer yr achosion o droi pobl allan o dai yn ystod y pandemig.