Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Pwyllgor yr Aelodau a’r cyhoedd. 1.2. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitemau 2 i
5, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 1.3. Cyhoeddodd Caroline Jones AC a Huw Irranca-Davies AC fuddiannau perthnasol
yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A. |
||
(09.30 - 10.30) |
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2 Dr Craig M.
Gurney CIHM, Darlithydd ym maes Tai, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a
Gwleidyddol (Astudiaethau Trefol), Prifysgol Glasgow Dr Tom Simcock
CMRS, Cymrawd Ymchwil, Uned Gwerthuso a Dadansoddi Polisi, Prifysgol Edge Hill Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Craig M. Gurney
CIHM, Darlithydd ym maes Tai, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol
(Astudiaethau Trefol), Prifysgol Glasgow ·
Dr Thomas Simcock
CMRS, Cymrawd Ymchwil, Uned Gwerthuso a Dadansoddi Polisi, Prifysgol Edge Hill |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru). |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y
Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyllideb
Ddrafft 2020. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a Nododd y
Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30 - 10.40) |
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitem 2. |
|
(10.40 - 10.45) |
Ystyried llythyr gan y Llywydd ynghylch deddfwriaeth yn y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn
perthynas ag deddfwriaeth yn y dyfodol a chytunwyd i ymateb iddo. |
|
(10.55 - 12.30) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |