Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Roedd Leanne
Wood AC wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb. |
||
(9.30 – 11.00) |
Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru Julie James AC, Y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Emma Williams,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai Sarah Rhodes,
Pennaeth y Gangen Ddigartrefedd, Adran Polisi Tai Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: • Julie
James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. • Emma
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi Tai • Sarah
Rhodes, Pennaeth y Gangen Digartrefedd, yr Is-adran Polisi Tai 2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol i gadarnhau a oes ganddynt ffigurau ar fenter yr
Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai i gwrdd â charcharorion ar ôl eu
rhyddhau i'w cyfeirio at wasanaethau priodol. Cytunodd hefyd i nodi a yw'r
fenter wedi arwain at ostyngiad yn nifer y carcharorion sy'n dychwelyd i'r
strydoedd ar ôl eu rhyddhau ac yna'n dychwelyd i'r carchar. |
|
(11:10 – 12:10) |
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: sesiwn dystiolaeth 1 Miranda Evans, Rheolwr
Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Miranda
Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â'r ymgynghoriad ar y rhaglen waith tair blynedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Swyddfa Archwilio
Cymru mewn perthynas â'r ymgynghoriad ynghylch blaenraglen waith tair blynedd. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12:10-12:20) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn
rhoi braslun o’i sylwadau yn dilyn y sesiwn dystiolaeth. |
|
(12:20-12:30) |
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan
Anabledd Cymru. |