Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/01/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 11

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Datblygu Sefydliadol a’r Rhaglen Newid, Llywodraeth Cymru

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant, Llywodraeth Cymru

Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sgiliau, Cyflogadwyedd a Chyllid yr UE, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

·         Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

·         Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Datblygu a Newid Sefydliadol, Llywodraeth Cymru

·         Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant Llywodraeth Cymru

·         Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sgiliau, Cyflogadwyedd ac Ariannu'r UE, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu nodyn ar:

·         y gweithgaredd ar draws Llywodraeth Cymru yn ei dull o sicrhau ymrwymiadau gan gyflogwyr yn gyfnewid am gefnogaeth sectoraidd;

·         rôl menywod mewn cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, yn dilyn ymgynghori ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 8 a 9 o'r cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45 - 10.55)

4.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

 

(11.00 - 12.00)

5.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11 - craffu ariannol

Simon Thomas AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil

Gareth Howells, Y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn y Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol

·         Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

·         Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad

 

5.2 Cytunodd yr Aelod Cyfrifol i ddarparu nodyn ar ei farn ar adroddiad yr Ymgynghorydd Arbenigol.

 

(12.30 - 14.00)

6.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 – craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil

Simon Thomas AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil

Gareth Howells, Y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Joanne McCarthy, Y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Simon Thomas AC, Aelod Cyfrifol

·         Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

·         Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Comisiwn y Cynulliad

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelod Cyfrifol mewn perthynas â sut y gellid egluro'r meini prawf o ran "Ymchwiliadau Estynedig".

 

7.

Papur(au) i'w nodi

7.1

Llythyr gan Simon Thomas AC mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Simon Thomas AC mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor ar Bopeth mewn cysylltiad â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gyngor ar Bopeth mewn cysylltiad â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.4

Ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2018-19.

 

(14.00 - 14.45)

8.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod y prif faterion dan sylw.

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion cyn drafftio'r adroddiad.

 

(14.45 - 14.50)

9.

Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau

 

(14.50 - 15.00)

10.

Ymchwiliad i Feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith: trafod y cylch gorchwyl a'r ymdriniaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gorchwyl a'i ymdriniaeth o'r ymchwiliad a chytunodd arnynt.