Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC,
Rhianon Passmore AC, Joyce Watson AC a Gareth Bennett AC. Roedd David Melding
AC, Jeremy Miles AC, Huw Irranca-Davies AC yn dirprwyo ar ran Janet, Rhianon a
Joyce yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(09.15 - 10.45) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): sesiwn dystiolaeth 7 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Carl Sargeant AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant John G Rees Rheolwr Bil, Llywodraeth Cymru Katie Wilson Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan: · Carl Sargeant
AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant · John G Rees,
Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru · Katie Wilson,
Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru 2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu: · nifer yr eiddo
y mae'n debygol y bydd y cyfyngiadau arfaethedig ar anheddau sy'n cael eu gosod
o'r newydd yn effeithio arnynt, a · manylion y
broses ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch diddymu cyn cyflwyno'r Bil. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi. |
||
Llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â’r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn
perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â’r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau
a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
(Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.00 - 12.00) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod y materion allweddol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer Bil Diddymu'r Hawl i
Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) i lywio ei adroddiad drafft a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant am y materion a
godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): Ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
|