Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC a Rhianon Passmore AC.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru a Strategaeth a Pholisi Corfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
June Milligan, Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth a Pholisi Cymru a Chorfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

·         June Milligan - Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru

 

2.2 Cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i roi adborth ynghylch pryderon yr Aelodau am sut mae hawliau dynol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm i Bwyllgor Cymru, ac i ddarparu nodyn am unrhyw drafodaethau a gynhelir. 

 

 

(10.15 - 11.15)

3.

Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Dr Simon Hoffman, Darlithydd Cysylltiol, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Thomas Glyn Watkin, Cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor a Chwnsel Deddfwriaethol Cyntaf Cymru 2007-2010

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe

·         Yr Athro Thomas Glyn Watkin, cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor a Chwnsler Deddfwriaethol cyntaf Cymru 2007-2010

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn cysylltiad â Gweithwyr Asiantaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Gweithiwr Asiantaeth.

 

4.2

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â Chyllid Cymunedau yn Gyntaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Chyllid Cymunedau yn Gyntaf.

 

4.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.30 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.

 

(11.45-12.00)

7.

Tlodi yng Nghymru: papur cwmpasu

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.

 

7.1

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol: