Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.30 - 15.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 2

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cyllid a Gweithlu Llywodraeth

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Judith Cole - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cyllid a Gweithlu Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu’r canlynol:

·       Diweddariadau ar wneud penderfyniadau o ran y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) a’r galw a ragwelir ar y gronfa;

·       Enghreifftiau o waith gwella a wnaed gan awdurdodau lleol a chynghorau tref a chynghorau cymuned mewn ymateb i’r pandemig, sy’n debygol o gael effeithiau cadarnhaol hirdymor ar gyfer y cymunedau;

·       Diweddariadau i’r Pwyllgor ar y gwaith rhwng Grŵp Gweithredu Canol Tref y Gweinidogion ac awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned, sy’n anelu at greu cadwyni cyflenwi lleol gan ddefnyddio busnesau bach.

 

(15.45 - 16.30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 3

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl.

 

4.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 28 Ionawr

Cofnodion:

5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyfer llywio ei adroddiad drafft.